Dy alwad glywir hanner dydd
Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos
Fel chwiban bugail a fo gudd
Dy alwad glywir hanner nos;
Nes clywir, pan ddwys a dy swn
Cyfarth dy anweledig gwn.
Dy braidd yw'r moel gymylau maith,
A'th barod gwn yw'r pedwar gwynt
Gorlanna'th ddiadelloedd llaith
I'w gwasgar eilwaith ar eu hynt
Yn yrr ddiorffwys, laes ddifref
Hyd lynfnion hafodlasau'r nef.