Pan fyddair'r nos yn olau,
A llwch y ffordd yn wyn,
A'r bont yn wag sy'n croesi'r dwr
Difwstwr ym Mhen Llyn
Y tylluanod yn eu tro
Glywid o lwyncoed Cwm y Glo.
Pan siglai'r hwyaid gwylltion
Wrth angor dan y lloer
A Llyn y Ffridd ar Ffridd y Llyn
Trostyny yn chwipio'n oer,
Lleisio'n ddidostur wnaent i ru
Y gwynt o Goed y Mynydd Du.
Pan lithrai gloyw ddwr Glaslyn
I'r gwyll, fel cledd i'r wain,
Pan gochai pell ffenestri'r plas
Rhwng briglas lwyni'r brain.
Pan gaeai syrthni safnau'r cwn
Nosai Ynys for yn eu swn.
A phan dywlla'r cread
Wedi'i wallgofddydd maith
A dyfod gosteg diystwr
Pob gweithiwr a phob gwaith
Ni bydd eu Lladin ar fy llw
Na llon na lleddf "Tw-whit, Tw-hw."