Mae hiraeth yn y môr a'r mynydd maith
Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn cân,
Mewn murmur dyfroedd ar dragywydd daith
Yn ariau'r machlud ac yn fflamau'r tân.
Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gwyn
A thristaf yn yr hesg y cwyna'r gwynt
Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn,
Ac yn y galon, atgof atgof gynt.

Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir
Ar gân y ceiliog yn y glwyd gerllaw:
Yn deffro caniad ar ôl caniad clir
O'r gerddi agos, nes o'r llechwedd draw
Y cwyd un olaf ei leferydd ef
A mwynder trist y pellter yn ei lef.



Back to Church, Charlotte